Parc Ynni Calon y Gwynt Photomontage

Croeso i wefan prosiect Parc Ynni Calon y Gwynt.

Mae Parc Ynni Calon y Gwynt yn barc ynni arfaethedig sydd wedi'i leoli tua 2.7km i'r gogledd o Clatter yn ardal weinyddol Cyngor Sir Powys. Byddai'r parc ynni arfaethedig yn cyfuno tyrbinau gwynt a storio batris er mwyn cynhyrchu ynni glân a chyfrannu at dargedau uchelgeisiol Cymru ar gyfer ynni adnewyddadwy.

Y Datblygwr

Mae Parc Ynni Calon y Gwynt yn rhan o fenter ar y cyd rhwng Wind2 a chwmnïau sy'n cael eu rheoli gan Octopus Energy Generation.

Datblygwr ynni adnewyddadwy arbenigol yw Wind2. Fe’i sefydlwyd yn 2016 gan Paula a Gerry Jewson, cyn-berchnogion a sylfaenwyr West Coast Energy. Mae gan y cwmni dimau yn yr Wyddgrug, Caeredin, Perth, Cromarty a Wells. Gydag arbenigedd sylweddol mewn ynni adnewyddadwy a hanes llwyddiannus o ddatblygu ffermydd gwynt a solar ar y tir ledled y DU, mae Wind2 yn helpu'r DU tuag at sero net.

Octopus Energy Generation yw un o fuddsoddwyr mwyaf Ewrop mewn asedau ynni adnewyddadwy a phrosiectau trawsnewid i ynni adnewyddadwy. Mae’n rheoli mwy na 300 o brosiectau ynni gwyrdd ar raddfa fawr ar draws 13 o wledydd sy’n defnyddio technolegau gwahanol gan gynnwys gwynt ar y tir, gwynt ar y môr ac ynni solar.

Am fwy o wybodaeth am Wind2, ewch i'r dudalen Amdanom ni, wind2.co.uk